Rwy’n byw
mewn ardal lle mae gan dirfeddianwyr cyfoethog a rhai sy’n
berchen ar eu tai basys i deithio ar fysiau am ddim o ganlyniad
i’w hoed, wrth i’r rhai sy’n hawlio budd-daliadau
ychydig filltiroedd i ffwrdd orfod talu er mwyn cael eu
budd-daliadau. Dyma esiampl arall o godi tâl ar y rhai
sy’n dlawd ac sy’n agored i niwed am wasanaeth
cyhoeddus sy’n hanfodol i’w bywydau bob dydd. Mae
hynny’n annheg ac yn anghyfiawn. Er mwyn datrys y sefyllfa
hon rwy’n cyflwyno deiseb i Gynulliad Cymru yn galw arni i
sefydlu cynllun ar gyfer y rhai tlawd ac agored i niwed yn ein
cymdeithas i gael gwasanaethau bws am ddim yng Nghymru a thocynnau
trên rhatach. Gellir cyllido hyn yn rhwydd drwy
drosglwyddo’r budd-daliadau sydd ar hyn o bryd yn cael eu
gwastraffu ar aelodau cyfoethog cymdeithas i eraill.
Gwybodaeth ychwanegol:
Os bydd y cynllun hwn yn cael ei fabwysiadu bydd yn helpu’r
tlawd yng Nghymru i gael yr hawl dynol sylfaenol i deithio a
defnyddio gwasanaethau lleol. Yn ychwanegol, bydd yn:
gwella’r amgylchedd drwy leihau allyriadau co2; annog defnydd
o drafnidiaeth gyhoeddus a chynyddu’r nifer sy’n ei
defnyddio; gwella lles emosiynol; hybu cyfleoedd cyflogaeth
i’r di-waith; cynorthwyo pobl i gael mynediad at wasanaethau
iechyd sylfaenol ac yn dangos yr angen am system drafnidiaeth
integredig (wedi ei gwladoli unwaith eto).
Prif ddeisebydd: Mark Griffiths
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 8 Hydref 2013
Nifer y llofnodion : 60